Ynglŷn â’r cod
Mae elusen yn y sefyllfa orau i wireddu ei dyheadau a’i hamcanion os oes ganddi drefn lywodraethu effeithiol a’r strwythurau arwain cywir. Bydd ymddiriedolwyr medrus a galluog yn helpu elusen i ddenu adnoddau a’u defnyddio yn y ffordd orau. Mae llywodraethu da yn galluogi ac yn cefnogi cydymffurfiaeth elusen â deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol. Mae hefyd yn hyrwyddo agweddau a diwylliant lle mae popeth yn gweithio tuag at wireddu gweledigaeth elusen.
Nod y cod hwn yw helpu elusennau a’u hymddiriedolwyr i ddatblygu’r safonau llywodraethu uchel hyn. Fel sector, mae dyletswydd arnom i’n buddiolwyr, ein rhanddeiliaid a’n cefnogwyr i arddangos arweinyddiaeth a llywodraethu rhagorol. Mae’r cod hwn yn offeryn ymarferol i helpu ymddiriedolwyr i gyflawni hyn.
Nid yw’r cod yn ofyniad cyfreithiol na rheoleiddiol. Mae’n tynnu ar ganllawiau’r Comisiwn Elusennau, ond mae’n sylfaenol wahanol iddynt. Yn hytrach, mae’r cod yn nodi’r egwyddorion a’r arferion a argymhellir ar gyfer llywodraethu da ac mae’n uchelgeisiol yn fwriadol: bydd rhai elfennau o’r cod yn her i lawer o elusennau eu cyflawni. Mae hyn yn fwriadol: rydym am i’r cod fod yn offeryn ar gyfer gwelliant parhaus tuag at y safonau uchaf.
Datblygwyd y cod hwn gan grŵp llywio, gyda chymorth dros 200 o elusennau, unigolion a mudiadau perthnasol. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi rhoi sylwadau a chymorth yn ystod yr ymgynghori. Ni fyddai datblygiad y cod wedi bod yn bosib heb The Clothworkers’ Company nag Ymddiriedolaeth Barrow Cadbury; diolchwn iddynt am eu cefnogaeth.
Gobeithiwn y bydd o gymorth i’ch elusen i wneud gwahaniaeth mwy fyth.