Perchnogaeth a rhannu

Mae’r Cod Llywodraethu i Elusennau yn ddeunydd hawlfraint y gallwch ei ailddefnyddio a’i rannu fel y mynnoch er dibenion anfasnachol.

Rydym am i’r Cod Llywodraethu i Elusennau gael ei ddefnyddio’n helaeth, felly, rydym wedi dewis iddo fod ar gael o dan drwydded Eiddo Creadigol Cyffredin – sy’n llai caeth na’r dull ‘cedwir pob hawl’ traddodiadol.

Trwyddedir cynnwys y wefan hon o dan drwydded Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 International.

Golyga hyn y gallwch wneud y canlynol:

  • Defnyddio, addasu ac ailgyhoeddi cynnwys ar y wefan hon fel y mynnoch, a bwrw’ch bod yn a) cydnabod y ffynhonnell (byddai dolen yn dda), ac yn b) sicrhau bod unrhyw beth rydych yn ei ailgyhoeddi ar gael o dan yr un telerau (hynny yw, trwydded rhannu yn yr un modd sy’n galluogi pobl i ailddefnyddio’ch gwaith ymhellach)

Ond ni allwch wneud y canlynol:

  • Gwneud defnydd masnachol o’r cynnwys ar y wefan hon. Golyga hyn na chewch godi tâl amdano, na’i ddefnyddio mewn unrhyw ffordd arall a fyddai’n rhoi mantais fasnachol i chi.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud defnydd masnachol o unrhyw beth ar y wefan hon, bydd angen i chi gysylltu â ni.