Geirfa
Adolygiad
Asesiad ffurfiol o rywbeth gyda’r bwriad o ysgogi newid os oes angen.
Adrodd
Rhoi cyfrif o rywbeth. I elusennau, gall hyn gynnwys yr adroddiad blynyddol a gwybodaeth a roddir ar y wefan neu a gyfathrebir mewn ffyrdd eraill.
Adroddiad blynyddol
Adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn â gweithgareddau’r elusen, cyfrifon blynyddol, strategaeth, y datganiad llywodraethu ac eitemau eraill.
Aelod
I gwmni elusennol, mae aelod i bob pwrpas yn warantwr mewn cwmni cyfyngedig drwy warant. Mae aelodau o gymdeithasau anghorfforedig fel arfer yn ymaelodi drwy gytuno i gadw at yr is-ddeddfau. Yn gyffredinol, daw pobl yn aelodau pan nodir eu henw yn y gofrestr aelodau sy’n ddogfen ffurfiol y mae’n ofynnol i gwmnïau a mudiadau eraill ei chadw.
I gwmni cyfyngedig drwy warant mae aelodaeth wedi’i chyfyngu i’r tanysgrifwyr i’r Memorandwm a’r rheini a dderbynir yn aelodau o dan y rheolau a osodir yn yr Erthyglau.
Gall aelodaeth o elusen fod yr un fath â’r diffiniad o aelodau o gwmnïau elusennol, ond mae modd iddynt hefyd weithredu cynllun aelodau neu gefnogwyr sy’n darparu buddion penodol. Mae gan aelodau o elusen yr hawl i bleidleisio a chael gwybodaeth ynglŷn â’r ffordd y mae’r elusen yn cael ei rhedeg.
Allbynnau
Swm rhywbeth a gynhyrchir. Er enghraifft, nifer y bobl sy’n defnyddio gwasanaeth cymunedol.
Amcanion
Yr hyn y mae uchelgais neu ymdrech yn ceisio ei gyflawni; nod neu ganlyniad a ddymunir.
Amrywiaeth
Hanfod amrywiaeth yw cydnabod, parchu a gwerthfawrogi gwahaniaethau pobl, a’u galluogi i gyfrannu a gwireddu eu potensial llawn o fewn diwylliant cynhwysol. Ymysg y pethau i’w hystyried yn y cyd-destun hwn y mae rhyw, ethnigrwydd, cefndir cymdeithasol a diwylliannol a nodweddion.
Annibynnol
Rhydd rhag rheolaeth allanol; heb fod o dan awdurdod na dylanwad arall. Gweler hefyd ‘gwrthdaro buddiannau’
Archwiliad
Arolwg swyddogol o gyfrifon cwmni neu fudiad gan gorff annibynnol.
Archwiliad sgiliau
Proses i fesur a chofnodi sgiliau unigolyn neu grŵp. Y pwrpas yw canfod y sgiliau a’r wybodaeth y mae ar y mudiad eu hangen, yn ogystal â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd gan y mudiad yn barod.
Arian wrth gefn
Adnoddau neu nwyddau ariannol nad oes angen eu defnyddio am y tro ond sydd ar gael os oes eu hangen.
Asedau
Eitem o eiddo dan berchnogaeth mudiad, a ystyrir i fod â gwerth ac ar gael i dalu dyledion, ymrwymiadau, neu ymrwymiadau etifeddol. Mae asedau’n cynnwys eitemau diriaethol (er enghraifft, tir, eiddo ayyb) ac anniriaethol, fel enw da.
Atebol / atebolrwydd
Atebolrwydd yw’r ddyletswydd ddiosgoi i egluro’r ffyrdd y mae unigolyn neu grŵp wedi cyflawni’r rhwymedigaethau sydd arnynt yn ôl y gyfraith, corff lywodraethu neu ddogfen gyfansoddiadol, neu’r ffyrdd y maent wedi achosi i’r pethau hyn gael eu cyflawni. Tra mae’n bosib dirprwyo i eraill y gwaith o gyflawni’r gweithgareddau/rhwymedigaethau hyn, ni ellir dirprwyo’r rhwymedigaeth i barhau’n atebol am y camau a gymerir.
Atebolrwydd cyfreithiol
Bod yn gyfrifol am rywbeth yn ôl y gyfraith (gweler hefyd ‘atebolrwydd dirprwyol’)
Atebolrwydd dirprwyol
Mae atebolrwydd dirprwyol yn cyfeirio at sefyllfa lle mae rhywun yn cael ei ddal yn gyfrifol am weithredoedd neu ddiffygion rhywun arall. Yn y gweithle, gall cyflogwr fod yn gyfrifol am weithredoedd neu ddiffygion ei gyflogeion, a bwrw y gellir dangos eu bod wedi digwydd yn ystod eu cyflogaeth.
Budd cyhoeddus
Budd i’r cyhoedd, un o ofynion statws elusennol. Creu effaith bositif o ganlyniad i’r gwaith a rhoi budd i grŵp digon eang o fewn cymdeithas. Mae hyn yn ganolog hefyd i Gwmnïau Buddiannau Cymunedol a mathau amrywiol eraill o fudiadau.
Buddiolwr
Rhywun sy’n cael budd o weithgareddau’r elusen.
Bwrdd
Grŵp o unigolion a etholir neu a benodir sydd, gyda’i gilydd, yn gyfrifol am drefn lywodraethu a chyfeiriad strategol mudiad, ac sydd ag atebolrwydd cyfreithiol.
Cadeirydd
Rhywun sy’n llywyddu dros gyfarfod, yn sicrhau y dilynir gweithdrefnau, yn crynhoi dadleuon, ac yn darparu arweinyddiaeth i’r bwrdd/pwyllgor.
Canlyniadau
Yr hyn sy’n dilyn gweithred neu weithgaredd. Er enghraifft, gwell iechyd ymysg y grŵp targed, neu warchod cynefin.
Cod
Set o gonfensiynau neu egwyddorion sy’n llywodraethu ymddygiad mewn maes penodol.
Codi i lefel uwch
Trosglwyddo pwnc o bryder neu ddiddordeb i fyny yn y gadwyn benderfynu.
Cofrestr buddiannau
Cofrestr a gedwir i restru buddiannau ymddiriedolwyr a’u buddiannau ymddangosiadol; mae’r gofrestr yn cofnodi buddiannau sydd â’r potensial i ddylanwadu ar ddyletswyddau swyddogol.
Contractwr
Person neu gwmni sy’n ymgymryd â chontract i wneud dan o waith neu berfformio gwasanaeth.
Cydymffurfiaeth
Y weithred o gadw at orchymyn neu reol.
Cydymffurfiaeth reoleiddiol, gofyniad
Mae cydymffurfiaeth reoleiddiol yn disgrifio’r nod y mae mudiadau’n ceisio ei gyflawni yn eu hymdrechion i sicrhau eu bod yn ymwybodol o ddeddfau, polisïau a rheoliadau perthnasol, ac yn cymryd camau i gydymffurfio â nhw.
Cyfansoddiad
Dogfen lywodraethu elusen yw unrhyw ddogfen sy’n nodi dibenion yr elusen a, fel arfer, y ffordd o’i gweinyddu. Gall y ddogfen fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, trawsgludiad, ewyllys, Siarter Frenhinol, Cynllun gan y Comisiwn, neu ddogfen ffurfiol arall.
Cyfrifon blynyddol
Adroddiad ariannol a gyflwynir gan ymddiriedolwyr elusen i’w haelodau (a phan fo angen y Comisiwn Elusennau) bob blwyddyn. Bydd y ddogfen hon yn dilyn y Datganiad o'r Arfer a Argymhellir i elusennau.
Cylch gorchwyl (pwyllgorau)
Cwmpas a chyfyngiadau gweithgaredd neu grŵp.
Cyllideb
Cynllun, wedi’i fynegi mewn termau ariannol, a gynigir gan y mudiad, yr uwch dîm rheoli neu’r bwrdd, er mwyn cyflawni, am gyfnod penodol, unrhyw rai neu bob un o swyddogaethau’r mudiad.
Cymesur
Cywir neu addas o ran maint, swm, neu raddfa wrth ei ystyried mewn perthynas â rhywbeth arall.
Cynaliadwy
Gallu parhau dros gyfnod o amser.
Cyndyn o fentro
Yn amharod neu’n gyndyn o gymryd risgiau.
Cynefino
Proses o hyfforddiant cychwynnol i aelodau newydd o staff neu’r bwrdd. Pwrpas cynefino yw rhoi gwybodaeth ac arweiniad i’r aelod newydd fel y gall ddod mor effeithiol â phosib yn ei rôl newydd cyn gynted â phosib.
Chwythu’r chwiban
Gweithred lle mae rhywun sy’n gysylltiedig â mudiad (fel arfer cyflogai) yn adrodd unrhyw gamweddau i ffynhonnell allanol.
Darbodus
Gofal, barnu’n dda, a doethineb wrth edrych ymlaen.
Datganiad llywodraethu
Trosolwg o’r prosesau y mae mudiad yn cael ei gyfarwyddo yn unol â nhw. Fel arfer, fe’i hanelir at aelodau a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau tryloywder, cysyniad sy’n awgrymu y dylai rhanddeiliaid wybod sut mae’r mudiad yn cael ei redeg. Ymhellach, mae datganiad llywodraethu yn sicrhau atebolrwydd y rheini wrth y llyw.
Datgelu
Y weithred o wneud gwybodaeth yn hysbys – yn gyffredinol, yn yr adroddiad blynyddol neu ar y wefan. Ymysg yr enghreifftiau y mae gweithgareddau a strategaeth yr elusen, cyfansoddiad y bwrdd (hynny yw, pwy sy’n aelodau ohono), datganiadau ariannol ac yn y blaen.
Defnyddiwr gwasanaeth
Yn gyffredinol mae ‘defnyddiwr gwasanaeth’ yn golygu unrhyw un sy’n glaf neu ddefnyddiwr arall o wasanaethau iechyd a / neu gymdeithasol, ond mae’r cysyniad yn ymestyn i fuddiolwyr elusennau.
Dibenion / pwrpas
‘Pwrpas’ elusen yw’r hyn y cafodd ei sefydlu i’w gyflawni. Mae pwrpas elusennol yn un sydd:
- yn cyd-fynd ag un neu fwy o’r 13 disgrifiad o ddibenion a restrir yn y Ddeddf Elusennau
- er budd y cyhoedd (y ‘gofyniad budd cyhoeddus’)
Diduedd
Trin pob pwnc neu berson yn gyfartal.
Diddymu
Y broses o gau elusen neu fudiad yn ffurfiol.
Dilys / dilysrwydd
Y gallu i amddiffyn rhywbeth â rhesymeg neu gyfiawnhad.
Diogelu
Gwarchod rhag niwed neu ddifrod â mesur(au) priodol.
Dirprwyo
Pan fo un parti yn rhoi awdurdod i barti arall at ddiben(ion) y cytunwyd arnynt. O dan y cysyniad cyfreithiol o atebolrwydd dirprwyol, mae’r dirprwywr yn dal i fod yn gyfrifol am weithredoedd neu ddiffygion y dirprwy wrth gyflawni diben y dirprwyo.
Disgrifiad o rôl
Datganiad eang, cyffredinol, ac ysgrifenedig o swydd benodol. Fel arfer mae’n cynnwys manylion dyletswyddau, pwrpas, cyfrifoldebau, cwmpas, ac amodau gwaith y swydd ynghyd â theitl y swydd, ac enw’r person.
Diwylliant
Syniadau, arferion, ac ymddygiad cymdeithasol pobl, cymdeithas, neu fudiad penodol.
Dogfen lywodraethu
Gweler Cyfansoddiad
Effaith
Gwahaniaeth neu ddylanwad amlwg.
Effeithiol
Yn llwyddiannus wrth gyflawni canlyniad a ddymunwyd neu a fwriadwyd.
Elusen
Dywed y Ddeddf Elusennau mai sefydliad yw elusen sydd er budd y cyhoedd ac a sefydlir er dibenion elusennol yn unig.
Enw da
Y credoau neu’r farn gyffredinol ynglŷn â rhywun neu rywbeth. Os oes gan elusen enw da, mae’n fwy tebygol o sicrhau cyllid a rhoddion.
Ethos
Ysbryd nodweddiadol diwylliant, cyfnod, neu gymuned (neu fudiad) sy’n dod i’r amlwg yn ei agweddau a’i ddyheadau.
Gofyniad cyson
Gofyniad sy’n parhau i fodoli neu ddatblygu.
Gonestrwydd / uniondeb
Y rhinwedd o fod ag egwyddorion moesol cryf; bod yn onest ac yn weddus.
Goruchwylio
Y weithred o wylio dros rywbeth.
Gweithdrefnau
Dilyniant cronolegol o weithredoedd. Dull sefydledig neu benodedig o ddelio gyda mater neu broses benodol, neu o brosesu mater neu broses benodol.
Gwerthoedd
Egwyddorion neu safonau ymddygiad; barn unigolyn o’r hyn sy’n bwysig mewn bywyd.
Gwerthuso
Asesiad ffurfiol o’r perfformiad dros gyfnod amser penodol.
Gwerthuso’r bwrdd
Adolygu’r bwrdd
Yr adolygiad rheolaidd i asesu perfformiad y bwrdd (a chyfarwyddwyr unigol) naill ai gan y bwrdd ei hun (hunanasesu) neu gan drydydd parti, ac i ddarganfod ble y gellir gwella. Dylai’r cadeirydd adrodd i’r bwrdd ynglŷn â’r canlyniadau a dylai’r bwrdd wedyn adrodd y canlyniad i’r aelodau yn yr adroddiad blynyddol.
Gwirfoddolwr
Rhywun sy’n gweithio i fudiad heb gael ei dalu.
Gwrthdaro buddiannau
Yr egwyddor sylfaenol ynglŷn â phob ymddiriedolwr yw na ddylent gael unrhyw fuddion ar ben y rheini sydd ar gael i fuddiolwyr eraill ac ni ddylent ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol arnynt. Dylai ymddiriedolwyr fod yn effro i’r holl amgylchiadau lle gall eu buddiannau wrthdaro.
Hyfywedd
Gallu i weithio’n llwyddiannus.
Is-gwmni
Mudiad neu gwmni a reolir gan fudiad neu gwmni daliannol.
Is-lywydd
Rôl swyddog anrhydeddus a gyflawnir gan ymddiriedolwr sy’n dirprwyo yn lle cadeirydd y mudiad ac yn ei gefnogi.
Lliniaru
Gwneud (rhywbeth drwg) yn llai difrifol neu boenus.
Llywodraethu
Llywodraethu (corfforaethol) yw’r system y mae cwmnïau yn cael eu cyfarwyddo a’u rheoli yn unol â hi.
Moeseg, moesegol
Safonau moesoldeb ac ymddygiad unigolyn neu fudiad.
Monitro
Pan fo mudiadau yn sefydlu pwyllgorau trosolwg a chraffu. Eu diben yw dal y gweithredwyr yn atebol a hefyd cefnogi’r mudiad i ddatblygu polisïau a chyfrannu at rôl arwain y mudiad drwy graffu ar wasanaethau a gweithredoedd y mudiad.
Mudiad gwirfoddol
Grŵp o unigolion sy’n dod i gytundeb, fel arfer fel gwirfoddolwyr, i ffurfio corff (neu fudiad) i gyflawni pwrpas.
Polisi (gweler Gwrthdaro buddiannau)
Pwyllgor
Grŵp o unigolion sy’n derbyn ac yn ystyried adroddiadau gan drydydd parti ac yn cyflwyno’r canfyddiadau i gorff uwch.
Dylai pob pwyllgor fod â chylch gorchwyl priodol a chyfredol sy’n cael ei gymeradwyo a’i adolygu gan y bwrdd.
Recriwtio
Gweithred a phroses o ymrestru pobl.
Risg
Sefyllfa lle mae rhywun neu rywbeth ac iddo werth yn agored i berygl, niwed, neu golled.
Rhanddeiliad
Rhywun sydd â diddordeb neu gyfran mewn rhywbeth.
Rheoleiddiwr
Y Comisiwn Elusennau i Gymru a Lloegr yw’r adran lywodraethol anweinidogol sy’n rheoleiddio elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr ac yn cynnal y Gofrestr Ganolog o Elusennau.
Rheoli risg
Dadansoddi a rheoli risg. Mae hyn yn cynnwys adnabod ac asesu’r risg, penderfynu a ddylid derbyn y risg, gwarchod yn ei herbyn, ei hatal neu yswirio yn ei herbyn, a’r broses o weithredu penderfyniadau o’r fath.
Rhiant-elusen
Elusen sy’n berchen ar fudiad arall drwy drefniadau llywodraethu.
Sicrhau
Datgan yn bositif a chael gwared ag unrhyw amheuon.
Sicrwydd
Datganiad positif a fwriedir iddo roi hyder.
SORP
Datganiad o’r Arfer a Argymhellir (SORP – Statement of Recommended Practice) sy’n amlinellu’r ffordd y mae’n rhaid i elusennau wneud cyfrif am eu harian.
Strategaeth / strategol
Cynllun gweithredu i geisio cyflawni nod hirdymor neu gyffredinol.
Swyddog
Person sydd mewn safle o awdurdod, neu ymddiriedaeth. Mae ymddiriedolwyr a’r prif weithredwr yn swyddogion, er enghraifft.
Tâl
Taliad cydnabyddiaeth am waith neu wasanaethau.
Uno
Cyfuno dau neu fwy o bethau, yn enwedig mudiadau, yn un.
Ymddiriedolwr
Mae gan ymddiriedolwyr elusen yr un ystyr ag yn adran 177 o Ddeddf Elusennau 2011, hynny yw, y personau sydd â’r rheolaeth gyffredinol dros weinyddu elusen, ni waeth beth maent yn cael eu galw.
Er enghraifft, yn achos cymdeithas anghorfforedig y pwyllgor rheoli yw’r ymddiriedolwyr elusen, ac yn achos cwmni elusennol y cyfarwyddwyr yw’r ymddiriedolwyr elusen.
Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am yr elusen yn ôl y gyfraith.
Ymddiriedolwr elusen, gweler ymddiriedolwr
*
Ymgynghori
Y weithred neu’r broses o ymgynghori neu drafod yn ffurfiol.
Yr Ymddiriedolwr Hanfodol
Canllaw allweddol i ymddiriedolwyr gan y Comisiwn Elusennau yw Yr Ymddiriedolwr Hanfodol. Mae’n rhoi eglurder ynghylch dyletswyddau cyfreithiol, a beth y mae’n rhaid ac y dylai ymddiriedolwyr ei wneud. Mae e’ ar gael ar wefan y Comisiwn Elusennau.