2. Arwain
Egwyddor
Arweinir pob elusen gan fwrdd effeithiol sy’n rhoi arweinyddiaeth strategol yn unol ag amcanion a gwerthoedd yr elusen.
Y rhesymeg
Mae arweinyddiaeth gref ac effeithiol yn helpu elusen i fabwysiadu strategaeth briodol i gyflawni ei hamcanion yn effeithiol. Mae hefyd yn gosod naws yr elusen, gan gynnwys ei gweledigaeth, ei gwerthoedd a’i henw da.
Canlyniadau allweddol
- Bydd y bwrdd yn ei gyfanrwydd, ac ymddiriedolwyr yn unigol, yn ysgwyddo cyfrifoldeb ar y cyd dros sicrhau bod gan yr elusen set glir a pherthnasol o amcanion a strategaeth briodol i’w cyflawni.
- Bydd y bwrdd yn cytuno ar weledigaeth, gwerthoedd ac enw da’r elusen ac yn arwain drwy esiampl, gan ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy’n cynrychioli’r elusen adlewyrchu ei gwerthoedd.
- Bydd y bwrdd yn sicrhau bod gwerthoedd yr elusen yn cael eu hadlewyrchu yn ei holl waith, a bod ethos a diwylliant y mudiad yn sail i'w holl weithgareddau.
Arfer a argymhellir
- Arwain yr elusen
- Bydd y bwrdd ac ymddiriedolwyr unigol yn ysgwyddo cyfrifoldeb ar y cyd dros ei benderfyniadau.
- Bydd y cadeirydd yn darparu arweinyddiaeth i’r bwrdd gan ysgwyddo’r prif gyfrifoldeb dros sicrhau bod gan y bwrdd flaenoriaethau y cytunwyd arnynt, strwythurau priodol, prosesau a diwylliant cynhyrchiol a bod ganddo ymddiriedolwyr ac uwch aelodau o staff a all lywodraethu’n dda ac ychwanegu gwerth at yr elusen.
- Yn achos y mwyafrif o uwch aelodau o staff (e.e. Prif Swyddog Gweithredol) bydd y bwrdd yn sicrhau bod trefniadau priodol wedi’u sefydlu er mwyn eu penodi, eu goruchwylio, eu cefnogi, eu gwerthuso, eu talu ac, os oes angen, eu diswyddo.
- Bydd swyddogaethau’r bwrdd yn cael eu cofnodi’n ffurfiol. Bydd yna ddisgrifiadau o rolau sy’n diffinio cyfrifoldebau pob ymddiriedolwr sy’n amlwg yn wahanol i gyfrifoldebau’r cadeirydd a swyddogion eraill ac sy’n amlinellu’r ffordd y mae’r rolau hyn yn gysylltiedig â
- Pan fo’r bwrdd wedi cytuno i sefydlu is-fudiad(au) â chyfansoddiad ffurfiol, bydd yn glir ynghylch rhesymeg, buddion a risgiau’r trefniadau hyn. Bydd y berthynas ffurfiol rhwng y rhiant-elusen a phob un o’i his-gwmnïau yn cael ei chofnodi’n glir a bydd y rhiant-elusen yn adolygu, yn rheolaidd fel sy’n briodol, a yw’r trefniadau hyn yn parhau i roi’r budd gorau tuag at ddibenion elusennol y mudiad.
- Arwain drwy esiampl
- Bydd y bwrdd yn cytuno ar y gwerthoedd, sy’n gyson â phwrpas yr elusen, y mae’n dymuno’u hyrwyddo ac yn sicrhau bod y rhain yn sail i'w holl benderfyniadau a gweithgareddau'r elusen (gweler hefyd Egwyddor 1).
- Bydd y bwrdd yn cydnabod, yn parchu ac yn croesawu safbwyntiau amrywiol, gwahanol, ac ar adegau, rhai sy’n groes i’w gilydd gan ei ymddiriedolwyr.
- Bydd y bwrdd yn goruchwylio’r elusen, ei staff ac, yn benodol, yr aelod uchaf o staff, yn rhoi cyfeiriad iddynt, yn eu cefnogi ac yn eu herio’n adeiladol.
- Bydd y bwrdd, drwy ei berthynas â’r uwch aelod o staff, yn creu amgylchiadau lle mae staff yr elusen yn hyderus ac yn gallu rhoi'r wybodaeth, y cyngor a'r adborth angenrheidiol i'r bwrdd.
- Ymrwymiad
- Bydd pob ymddiriedolwr yn rhoi amser digonol i’r elusen i gyflawni eu cyfrifoldebau yn effeithiol, gan gynnwys paratoi at gyfarfodydd ac eistedd ar bwyllgorau’r bwrdd a chyrff llywodraethu eraill pan fo angen. Bydd ymddiriedolwyr yn cael gwybod yr ymrwymiad amser a ddisgwylir cyn iddynt gael eu henwebu neu eu penodi ac eto wrth dderbyn yr enwebiad neu’r penodiad.
- Pan fo aelodau unigol o’r bwrdd yn ymwneud hefyd â gweithgareddau gweithredol, er enghraifft, fel gwirfoddolwyr, byddant yn glir ynghylch ym mha rinwedd maent yn gweithredu ar unrhyw adeg benodol ac yn deall beth mae ganddynt, a beth nad oes ganddynt, awdurdod i’w wneud, ac i bwy maent yn adrodd.
- Arwain yr elusen
- Bydd y bwrdd ac ymddiriedolwyr unigol yn ysgwyddo cyfrifoldeb ar y cyd dros ei benderfyniadau.
- Bydd y cadeirydd yn darparu arweinyddiaeth i’r bwrdd gan ysgwyddo cyfrifoldeb dros sicrhau bod gan y bwrdd flaenoriaethau y cytunwyd arnynt, strwythurau priodol, prosesau a diwylliant cynhyrchiol a bod ganddo ymddiriedolwyr a all lywodraethu’n dda ac felly ychwanegu gwerth at yr elusen.
- Os oes gan yr elusen staff bydd y bwrdd yn sicrhau bod trefniadau priodol wedi’u sefydlu er mwyn eu penodi, eu goruchwylio, eu cefnogi, eu gwerthuso, eu talu ac, os oes angen, eu diswyddo.
- Os oes gan yr elusen wirfoddolwyr, bydd y bwrdd yn sicrhau trefniadau priodol i’w recriwtio, eu cefnogi a’u goruchwylio.
- Bydd swyddogaethau’r bwrdd yn cael eu cofnodi’n ffurfiol. Bydd yna ddisgrifiadau o rolau sy’n diffinio cyfrifoldebau pob ymddiriedolwr sy’n amlwg yn wahanol i gyfrifoldebau’r cadeirydd a swyddogion eraill ac sy’n amlinellu’r ffordd y mae’r rolau hyn yn gysylltiedig â staff neu wirfoddolwyr os oes rhai.
- Pan fo’r bwrdd wedi cytuno i sefydlu is-fudiad(au) â chyfansoddiad ffurfiol, bydd yn glir ynghylch rhesymeg, buddion a risgiau’r trefniadau hyn. Bydd y berthynas ffurfiol rhwng y rhiant-elusen a phob un o’i his-gwmnïau yn cael ei chofnodi’n glir a bydd y rhiant-elusen yn adolygu, yn rheolaidd fel sy’n briodol, a yw’r trefniadau hyn yn parhau i roi’r budd gorau tuag at ddibenion elusennol y mudiad.
- Arwain drwy esiampl
- Bydd y bwrdd yn cytuno ar y gwerthoedd, sy’n gyson â phwrpas yr elusen, y mae’n dymuno’u hyrwyddo ac yn sicrhau bod y rhain yn sail i'w holl benderfyniadau a gweithgareddau'r elusen (gweler hefyd Egwyddor 1).
- Bydd y bwrdd yn cydnabod, yn parchu ac yn croesawu safbwyntiau amrywiol, gwahanol, ac ar adegau, rhai sy’n groes i’w gilydd gan ei ymddiriedolwyr.
- Bydd y bwrdd yn goruchwylio’r elusen ac yn rhoi cyfeiriad iddi, ac yn darparu cymorth a her adeiladol i’r mudiad, a staff a gwirfoddolwyr os oes rhai.
- Bydd y bwrdd yn cefnogi unrhyw staff neu wirfoddolwyr i fod â’r hyder a’r gallu i roi'r wybodaeth, y cyngor a'r adborth angenrheidiol i'r bwrdd.