Dolenni defnyddiol
Mae gwefan y Comisiwn Elusennau yn ffynhonnell hanfodol o wybodaeth i ymddiriedolwyr a’r rheini sy’n cefnogi llywodraeth effeithiol. Yn benodol, mae sylfaen y cod hwn yn cyfeirio at CC3 Yr Ymddiriedolwr Hanfodol.
ACEVO yw’r gymuned o arweinwyr cymdeithas sifil. Mae gan ei gwefan gyngor a chymorth ar lywodraethu, yn enwedig ar ddatblygu perthynas effeithiol rhwng y Prif Swyddog Gweithredol a’r bwrdd.
Mae Cymdeithas y Cadeiryddion yn cefnogi Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion yng Nghymru a Lloegr. Fe welwch adnoddau a digwyddiadau ar ei gwefan www.associationofchairs.org.uk.
Mae ICSA: Y Sefydliad Llywodraethu yn darparu gwybodaeth gyffredinol a manwl i’r sector elusennol a dielw, gan gynnwys arweiniad ar rolau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr, gwrthdaro buddiannau a mwy, yn ogystal â llyfrau a chyrsiau amrywiol. Ewch i’r tab ‘knowledge’ a chwilio am y ddolen at adnoddau i elusennau.
Mae gan NCVO gasgliad o offer ac adnoddau i gefnogi llywodraethu da;
- Mae safle Know how non-profit yn darparu gwybodaeth ac e-ddysgu i elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol. Mae’r adran Board Basics yn cynnwys cyfres o offer, dogfennau enghreifftiol a chanllawiau i sicrhau bwrdd effeithiol.
- Mae’r adran Studyzone yn darparu cyrsiau hyfforddi arlein i ymddiriedolwyr a all helpu’ch bwrdd i roi’r cod hwn ar waith. Mae’r adnoddau hyn am ddim i aelodau NCVO.
- Mae gwybodaeth bellach ar gymorth llywodraethu, hyfforddiant, cyhoeddiadau a blogiau pynciol gan NCVO ar gael ar ei gwefan.
Mae’r Gynghrair Elusennau Bychain yn cefnogi mudiadau y mae eu hincwm o dan un miliwn o bunnoedd y flwyddyn. Mae ei gwefan yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau, cyngor ac arweiniad i ymddiriedolwyr elusennau llai.
Anogir elusennau yng Nghymru i fynd ar wefan WCVA sydd ag amrywiaeth o ganllawiau a gwybodaeth am ddigwyddiadau perthnasol. Yn ogystal, ceir rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru sef casgliad o fudiadau cymorth i’r trydydd sector yng Nghymru.
Cynhaliwyd yr ymchwil fawr gyntaf i’r Cod gan RSM, cwmni sy’n ymwneud ag archwiliadau, trethi ac ymgynghori. Mae’r gwaith yma, a lansiwyd yn 2019, yn ymchwilio i’r buddion i elusennau wrth fabwysiadu’r Cod a’r tueddiadau mabwysiadu (Saesneg yn unig).